Barnwyr 19:10-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A'r gŵr ni fynnai aros dros nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerwsalem, a chydag ef gwpl o asynnod llwythog, a'i ordderchwraig gydag ef.

11. A phan oeddynt hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod: a'r llanc a ddywedodd wrth ei feistr, Tyred, atolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a lletywn ynddi.

12. A'i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea.

13. Ac efe a ddywedodd wrth ei lanc, Tyred, a nesawn i un o'r lleoedd hyn, i letya dros nos, yn Gibea, neu Rama.

14. Felly y cerddasant, ac yr aethant: a'r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin.

15. A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a'u cymerai hwynt i'w dŷ i letya.

16. Ac wele ŵr hen yn dyfod o'i waith o'r maes yn yr hwyr; a'r gŵr oedd o fynydd Effraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini.

17. Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinas: a'r hen ŵr a ddywedodd, I ba le yr ei di? ac o ba le y daethost?

Barnwyr 19