Barnwyr 13:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlynedd.

2. Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora, o dylwyth y Daniaid, a'i enw ef oedd Manoa; a'i wraig ef oedd amhlantadwy, heb esgor.

3. Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd i'r wraig, ac a ddywedodd wrthi, Wele, yn awr amhlantadwy ydwyt ti, ac heb esgor: ond ti a feichiogi, ac a esgori ar fab.

Barnwyr 13