Barnwyr 1:17-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a'i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma.

18. Jwda hefyd a enillodd Gasa a'i therfynau, ac Ascalon a'i therfynau, ac Ecron a'i therfynau.

19. A'r Arglwydd oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt.

20. Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.

21. Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.

22. A thÅ· Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a'r Arglwydd oedd gyda hwynt.

23. A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel: (ac enw y ddinas o'r blaen oedd Lus.)

Barnwyr 1