Amos 6:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais;

4. Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o'r praidd, a'r lloi o ganol y cut;

5. Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd;

6. Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â'r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff.

7. Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda'r cyntaf a ddygir yn gaeth; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir.

8. Tyngodd yr Arglwydd Dduw iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwydd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

Amos 6