8. Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas, i yfed dwfr; ond nis diwallwyd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd.
9. Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter: pan amlhaodd eich gerddi, a'ch gwinllannoedd, a'ch ffigyswydd, a'ch olewydd, y lindys a'u hysodd: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd.
10. Anfonais yr haint yn eich mysg, megis yn ffordd yr Aifft: eich gwŷr ieuainc a leddais â'r cleddyf, gyda chaethgludo eich meirch; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i'ch ffroenau: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd.
11. Mi a ddymchwelais rai ohonoch, fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra; ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o'r gynnau dân: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd.