Amos 2:11-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A mi a gyfodais o'ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o'ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr Arglwydd

12. Ond chwi a roesoch i'r Nasareaid win i'w yfed; ac a orchmynasoch i'ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch.

13. Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau.

14. A metha gan y buan ddianc, a'r cryf ni chadarnha ei rym, a'r cadarn ni wared ei enaid ei hun:

15. Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun.

16. A'r cryfaf ei galon o'r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr Arglwydd.

Amos 2