Actau'r Apostolion 9:35-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. A phawb a'r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a'i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd.

36. Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a'i henw Tabitha, (yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas;) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, y rhai a wnaethai hi.

37. A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a'i dodasant hi mewn llofft.

38. Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa, y disgyblion a glywsant fod Pedr yno; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef, gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy.

39. A Phedr a gyfododd, ac a aeth gyda hwynt. Ac wedi ei ddyfod, hwy a'i dygasant ef i fyny i'r llofft: a'r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo, ac yn dangos y peisiau a'r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt.

40. Eithr Pedr, wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddïodd; a chan droi at y corff, a ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd hi Pedr, hi a gododd yn ei heistedd.

Actau'r Apostolion 9