Actau'r Apostolion 8:38-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. Ac efe a orchmynnodd sefyll o'r cerbyd: a hwy a aethant i waered ill dau i'r dwfr, Philip a'r eunuch; ac efe a'i bedyddiodd ef.

39. A phan ddaethant i fyny o'r dwfr, Ysbryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr eunuch ef mwyach: ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen.

40. Eithr Philip a gaed yn Asotus: a chan dramwy, efe a efengylodd ym mhob dinas hyd oni ddaeth efe i Cesarea.

Actau'r Apostolion 8