15. Felly yr aeth Jacob i waered i'r Aifft, ac a fu farw, efe a'n tadau hefyd.
16. A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem.
17. A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft,
18. Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff.
19. Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient.
20. Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad.
21. Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a'i cyfododd ef i fyny, ac a'i magodd ef yn fab iddi ei hun.
22. A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd.
23. A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i'w galon ef ymweled â'i frodyr plant yr Israel.
24. A phan welodd efe un yn cael cam, efe a'i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro'r Eifftiwr.
25. Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant.
26. A'r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a'u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â'ch gilydd?