Actau'r Apostolion 5:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Eithr rhyw ŵr a'i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd dir,

2. Ac a ddarnguddiodd beth o'r gwerth, a'i wraig hefyd o'r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a'i gosododd wrth draed yr apostolion.

3. Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir?

Actau'r Apostolion 5