Actau'r Apostolion 26:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a'i hamddiffynnodd ei hun.

2. Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon:

3. Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau a'r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar.

4. Fy muchedd i o'm mebyd, yr hon oedd o'r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a ŵyr yr Iddewon oll;

5. Y rhai a'm hadwaenent i o'r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl y sect fanylaf o'n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead.

Actau'r Apostolion 26