Actau'r Apostolion 24:7-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Eithr Lysias y pen‐capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a'i dug ef allan o'n dwylo ni,

8. Ac a archodd i'w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di: gan yr hwn, wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o'r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno.

9. A'r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.

10. A Phaul a atebodd, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun.

11. Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.

12. Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i'r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas:

13. Ac ni allant brofi'r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o'u plegid.

14. Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a'r proffwydi:

15. A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae'r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i'r cyfiawnion ac i'r anghyfiawnion.

16. Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi‐rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol.

17. Ac ar ôl llawer o flynyddoedd, y deuthum i wneuthur elusennau i'm cenedl, ac offrymau.

18. Ar hynny rhai o'r Iddewon o Asia a'm cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg.

19. Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i'm herbyn.

20. Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor;

Actau'r Apostolion 24