Actau'r Apostolion 23:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A'r sefyllwyr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di archoffeiriad Duw?

5. A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl.

6. A phan wybu Paul fod y naill ran o'r Sadwceaid, a'r llall o'r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.

7. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Phariseaid a'r Sadwceaid: a rhannwyd y lliaws.

Actau'r Apostolion 23