Actau'r Apostolion 23:31-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a'i dygasant o hyd nos i Antipatris.

32. A thrannoeth, gan adael i'r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i'r castell:

33. Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi'r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.

34. Ac wedi i'r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd;

35. Mi a'th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.

Actau'r Apostolion 23