Actau'r Apostolion 22:14-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a'th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef.

15. Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o'r pethau a welaist ac a glywaist.

16. Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd.

Actau'r Apostolion 22