Actau'r Apostolion 21:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.

15. Hefyd, ar ôl y dyddiau hynny, ni a gymerasom ein beichiau, ac a aethom i fyny i Jerwsalem.

16. A rhai o'r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hen ddisgybl, gyda'r hwn y lletyem.

17. Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a'n derbyniasant yn llawen.

18. A'r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a'r holl henuriaid a ddaethant yno.

Actau'r Apostolion 21