Actau'r Apostolion 20:8-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu.

9. A rhyw ŵr ieuanc, a'i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o'r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw.

10. A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef.

11. Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith.

12. A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.

13. Ond nyni a aethom o'r blaen i'r llong, ac a hwyliasom i Asos; ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed.

14. A phan gyfarfu efe â ni yn Asos, nyni a'i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene.

15. A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a'r ail dydd y daethom i Miletus.

16. Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn.

17. Ac o Miletus efe a anfonodd i Effesus, ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys.

18. A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser;

19. Yn gwasanaethu'r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon:

20. Y modd nad ateliais ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a'ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ;

21. Gan dystiolaethu i'r Iddewon, ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a'r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.

22. Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno:

Actau'r Apostolion 20