Actau'r Apostolion 2:43-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

43. Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion.

44. A'r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin;

45. A hwy a werthasant eu meddiannau a'u da, ac a'u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb.

46. A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon,

47. Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.

Actau'r Apostolion 2