17. A'r holl Roegwyr a gymerasant Sosthenes yr archsynagogydd, ac a'i curasant o flaen y frawdle. Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o'r pethau hynny.
18. Eithr Paul, wedi aros eto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i'r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea: canys yr oedd arno adduned.
19. Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a'u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i'r synagog, ac a ymresymodd รข'r Iddewon.
20. A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy, ni chaniataodd efe: