Actau'r Apostolion 16:38-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. A'r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i'r swyddogion: a hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt.

39. A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt, ac a'u dygasant allan, ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o'r ddinas.

40. Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia: ac wedi gweled y brodyr, hwy a'u cysurasant, ac a ymadawsant.

Actau'r Apostolion 16