Actau'r Apostolion 15:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys, hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd: a hwy a barasant lawenydd mawr i'r brodyr oll.

4. Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt.

5. Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.

6. A'r apostolion a'r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma.

Actau'r Apostolion 15