Actau'r Apostolion 12:14-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth.

15. Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti'n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw.

16. A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a'i gwelsant ef, ac a synasant.

17. Ac efe a amneidiodd arnynt รข llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai'r Arglwydd ef allan o'r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i'r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall.

Actau'r Apostolion 12