2 Timotheus 3:15-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy'r ffydd sydd yng Nghrist Iesu.

16. Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder:

17. Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.

2 Timotheus 3