1. Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
2. A'r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda'r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd.
3. Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist.
4. Nid yw neb a'r sydd yn milwrio, yn ymrwystro รข negeseuau'r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i dewisodd yn filwr.
5. Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon.