2 Thesaloniaid 3:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Bellach, frodyr, gweddïwch drosom ni, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd, megis gyda chwithau;

2. Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus: canys nid oes ffydd gan bawb.

3. Eithr ffyddlon yw'r Arglwydd, yr hwn a'ch sicrha chwi, ac a'ch ceidw rhag drwg.

2 Thesaloniaid 3