2 Samuel 6:4-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A hwy a'i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch.

5. Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.

6. A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.

7. A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw a'i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.

8. A bu ddrwg gan Dafydd, am i'r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn.

9. A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi?

10. Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a'i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad.

2 Samuel 6