2 Samuel 3:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A'r pedwerydd, Adoneia, mab Haggith; a'r pumed, Seffatia, mab Abital:

5. A'r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.

6. A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul.

7. Ond i Saul y buasai ordderchwraig a'i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad?

2 Samuel 3