6. Yna y daethant i Gilead, ac i wlad Tahtim‐hodsi; daethant hefyd i Dan-jaan, ac o amgylch i Sidon;
7. Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a'r Canaaneaid; a hwy a aethant i du deau Jwda, i Beer‐seba.
8. Felly y cylchynasant yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem.
9. A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr.
10. A chalon Dafydd a'i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr Arglwydd, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O Arglwydd, anwiredd dy was; canys ynfyd iawn y gwneuthum.
11. A phan gyfododd Dafydd y bore, daeth gair yr Arglwydd at Gad y proffwyd, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,
12. Dos a dywed wrth Dafydd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o'th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a gwnaf hynny i ti.
13. Felly Gad a ddaeth at Dafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o newyn yn dy wlad? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod? Yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a atebaf i'r hwn a'm hanfonodd i.