2 Samuel 21:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymofynnodd gerbron yr Arglwydd. A'r Arglwydd a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dŷ gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid.

2. A'r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a'r Gibeoniaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o'i serch i feibion Israel a Jwda.)

3. A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac â pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr Arglwydd?

4. A'r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dŷ ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi.

5. A hwy a ddywedasant wrth y brenin, Y gŵr a'n difethodd ni, ac a fwriadodd i'n herbyn ni, i'n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel,

6. Rhodder i ni saith o wŷr o'i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i'r Arglwydd yn Gibea Saul, dewisedig yr Arglwydd. A dywedodd y brenin, Myfi a'u rhoddaf.

7. Ond y brenin a arbedodd Meffiboseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr Arglwydd yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul.

8. Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddûg hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad:

2 Samuel 21