14. Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant.
15. Yna y cyfodasant, ac yr aethant drosodd dan rif, deuddeg o Benjamin, sef oddi wrth Isboseth mab Saul, a deuddeg o weision Dafydd.
16. A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon.
17. A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.
18. A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o'r iyrchod sydd yn y maes.
19. Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner; ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner.
20. Yna Abner a edrychodd o'i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi.
21. A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o'r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef. Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef.