8. Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a'r coed a ddifethodd fwy o'r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw.
9. Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a'r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr, a'i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a'r ddaear; a'r mul oedd dano ef a aeth ymaith.
10. A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn derwen.
11. A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, Ac wele, ti a'i gwelaist ef; paham nas trewaist ef yno i'r llawr, ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac un gwregys?
12. A dywedodd y gŵr wrth Joab, Pe cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian, nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin: canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ittai, gan ddywedyd, Gwyliwch gyffwrdd o neb â'r llanc Absalom.
13. Os amgen, mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes: canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn.
14. Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a'u brathodd trwy galon Absalom, ac efe eto yn fyw yng nghanol y dderwen.
15. A'r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a'i lladdasant ef.
16. A Joab a utganodd mewn utgorn; a'r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl.