2 Samuel 17:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A da fu'r peth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel.

5. Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd.

6. A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di.

7. A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon.

2 Samuel 17