26. Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg.
27. A'r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i'r ddinas mewn heddwch, a'th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar.
28. Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i'w fynegi i mi.
29. Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch Duw i Jerwsalem; ac a arosasant yno.
30. A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a'i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A'r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo.
31. A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O Arglwydd, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb.