16. A'r brenin a aeth, a'i holl dylwyth ar ei ôl. A'r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ.
17. A'r brenin a aeth ymaith, a'r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell.
18. A'i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef: yr holl Gerethiaid, a'r holl Belethiaid, a'r holl Gethiaid, y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y brenin.
19. Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, Paham yr ei di hefyd gyda ni? Dychwel, a thrig gyda'r brenin: canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o'th fro dy hun.
20. Doe y daethost ti; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni? Myfi a af: dychwel di, a dwg dy frodyr gyda thi: trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi.
21. Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd.
22. A Dafydd a ddywedodd wrth Ittai, Dos, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a'i holl wŷr, a'r holl blant oedd gydag ef.