2 Pedr 1:15-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn.

16. Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â'n llygaid.

17. Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y'm bodlonwyd.

18. A'r llef yma, yr hon a ddaeth o'r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd.

19. Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio'r dydd, ac oni chodo'r seren ddydd yn eich calonnau chwi:

20. Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o'r ysgrythur o ddehongliad priod.

2 Pedr 1