2 Cronicl 9:22-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A'r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.

23. A holl frenhinoedd y ddaear oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i wrando ei ddoethineb a roddasai Duw yn ei galon ef.

24. A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.

25. Ac yr oedd gan Solomon bedair mil o bresebau meirch a cherbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch; ac efe a'u cyfleodd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, a chyda'r brenin yn Jerwsalem.

26. Ac yr oedd efe yn arglwyddiaethu ar yr holl frenhinoedd, o'r afon hyd wlad y Philistiaid, a hyd derfyn yr Aifft.

27. A'r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a'r cedrwydd a wnaeth efe fel y sycamorwydd yn y doldir, o amldra.

28. Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o'r Aifft, ac o bob gwlad.

29. A'r rhan arall o weithredoedd Solomon, cyntaf a diwethaf, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Ahïa y Siloniad, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat?

2 Cronicl 9