2 Cronicl 7:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A'r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a'r Lefiaid ag offer cerdd yr Arglwydd, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr Arglwydd, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy: a'r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll.

7. A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau, a braster yr aberthau hedd; canys ni allai yr allor bres a wnaethai Solomon dderbyn y poethoffrwm, a'r bwyd-offrwm, a'r braster.

8. A Solomon a gadwodd ŵyl y pryd hwnnw saith niwrnod, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr iawn, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft.

9. Gwnaethant hefyd yr wythfed dydd gymanfa: canys cysegriad yr allor a gadwasant hwy saith niwrnod, a'r ŵyl saith niwrnod.

10. Ac yn y trydydd dydd ar hugain o'r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i'w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei bobl.

11. Fel hyn y gorffennodd Solomon dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin: a'r hyn oll oedd ym mryd Solomon ei wneuthur yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn ei dŷ ei hun, a wnaeth efe yn llwyddiannus.

12. A'r Arglwydd a ymddangosodd i Solomon liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi, a mi a ddewisais y fan hon i mi yn dŷ aberth.

2 Cronicl 7