5. A'i dewder oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili: a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai.
6. Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i'r offeiriaid i ymolchi ynddo.
7. Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a'u gosododd yn y deml, pump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy.
8. Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a'u gosododd yn y deml, pump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.
9. Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a'r cyntedd mawr, a dorau i'r cynteddoedd; a'u dorau hwynt a wisgodd efe â phres.