14. A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o'r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd, sef llestri y weinidogaeth, a'r morterau, a'r llwyau, a'r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.
15. Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw.
16. A hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda'r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at Dduw a'i dŷ.
17. Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i'r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy.
18. A hwy a adawsant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau, ac a wasanaethasant y llwyni, a'r delwau: a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn.
19. Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i'w troi hwynt at yr Arglwydd; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy.
20. Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd Duw, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr Arglwydd? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr Arglwydd, am hynny yntau a'ch gwrthyd chwithau.
21. A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a'i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd.
22. Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, Edryched yr Arglwydd, a gofynned.
23. Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus.