3. Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o'r wlad, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw.
4. A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem: ac efe a aeth drachefn trwy'r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a'u dug hwynt eilwaith at Arglwydd Dduw eu tadau.
5. Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd;
6. Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn.
7. Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda'r Arglwydd ein Duw, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr.
8. A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o'r Lefiaid, ac o'r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr Arglwydd, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem.
9. Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd, mewn ffyddlondeb, ac รข chalon berffaith.