1. Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.
2. Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria. Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer, iddo ef ac i'r bobl oedd gydag ef, ac a'i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-Gilead.
3. Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead? Yntau a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a'm pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel.
4. Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw รข gair yr Arglwydd.