2 Cronicl 17:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef, ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel.

2. Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda, ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda, ac yn ninasoedd Effraim, y rhai a enillasai Asa ei dad ef.

3. A'r Arglwydd a fu gyda Jehosaffat, oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad, ac nad ymofynnodd â Baalim:

4. Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel.

5. Am hynny yr Arglwydd a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth.

6. Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr Arglwydd: ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a'r llwyni allan o Jwda.

7. Hefyd yn y drydedd flwyddyn o'i deyrnasiad, efe a anfonodd at ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadeia, a Sechareia, a Nethaneel, a Michaia, i ddysgu yn ninasoedd Jwda.

8. A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaia, a Nethaneia, a Sebadeia, ac Asahel, a Semiramoth a Jehonathan, ac Adoneia, a Thobeia, a Thob Adoneia, y Lefiaid; a chyda hwynt Elisama, a Jehoram, yr offeiriaid.

9. A hwy a ddysgasant yn Jwda, a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd: felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Jwda, ac y dysgasant y bobl.

10. Ac arswyd yr Arglwydd oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat.

2 Cronicl 17