2 Cronicl 11:22-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben, yn flaenor ar ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin.

23. Ac efe a fu gall, ac a wasgarodd rai o'i feibion i holl wledydd Jwda a Benjamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wragedd.

2 Cronicl 11