2 Corinthiaid 8:13-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau;

14. Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra:

15. Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.

16. Eithr i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus.

2 Corinthiaid 8