2 Corinthiaid 6:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A ninnau, gan gydweithio, ydym yn atolwg i chwi, na dderbynioch ras Duw yn ofer:

2. (Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y'th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y'th gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.)

3. Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth:

4. Eithr gan ein dangos ein hunain ym mhob peth fel gweinidogion Duw, mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau,

2 Corinthiaid 6