2 Corinthiaid 4:12-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau.

13. A chan fod gennym yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;

14. Gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a'n gosod gerbron gyda chwi.

15. Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i ras wedi amlhau, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw.

2 Corinthiaid 4