2 Corinthiaid 3:7-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd;

8. Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant?

9. Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant.

10. Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol.

11. Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus.

12. Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr:

2 Corinthiaid 3