2 Corinthiaid 3:14-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae'r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddileir.

15. Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae'r gorchudd ar eu calon hwynt.

16. Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.

17. Eithr yr Arglwydd yw'r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid.

2 Corinthiaid 3