2 Corinthiaid 2:13-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu'n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia.

14. Ond i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle.

15. Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig:

16. I'r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i'r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?

2 Corinthiaid 2