2 Corinthiaid 10:12-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall.

13. Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o'n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddyd hyd atoch chwi hefyd.

14. Canys nid ydym, megis rhai heb gyrhaeddyd hyd atoch chwi, yn ymestyn allan tu hwnt i'n mesur; canys hyd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist:

15. Nid gan fostio hyd at bethau allan o'n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth,

16. I bregethu'r efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes.

2 Corinthiaid 10